Datganiad hygyrchedd ar gyfer ymateb i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol am eich hawliau pleidleisio

Mae’r datganiad hwn ond yn gymwys i’r gwasanaeth ‘Ymateb i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol am eich hawliau pleidleisio’, sydd ar gael yn https://reply-eu-citizen-voting-rights.service.gov.uk. Bwriedir i‘r gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio gan bob unigolyn cymwys fel rhan o wefan ehangach GOV.UK, ond mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer gwefan GOV.UK.

Defnyddio’r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei weinyddu gan Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), sydd eisiau i gymaint o bobl â phosibl gallu ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300%, heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gyda darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Roedd testun y gwasanaeth hefyd wedi’i wneud mor syml â phosibl.

Mae gan AbilityNet gyngor i wneud dyfeisiau’n haws eu defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Nid yw’r lliwiau a ddefnyddir ar destun cyswllt ac ar rai botymau yn y gwasanaeth yn cyd-fynd â’r cymarebau cyferbynnedd gofynnol er mwyn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.6 WCAG 2.2: Cyferbynnedd (Uwch). Rydym yn defnyddio elfennau system ddylunio safonol GOV.UK ac, felly, rydym yn dibynnu ar Dîm System Ddylunio GOV.UK ar gyfer y rhain.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych chi’n cael anhawster yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â DLUHC ar:

Adrodd am broblemau hygyrchedd

Mae DLUHC bob amser eisiau gwella hygyrchedd y gwasanaeth. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad yw gofynion hygyrchedd yn cael eu cwrdd, e-bostiwch ierservice@elections.gov.uk

Gorfodi a chwynion

Dylid anfon cwynion at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Hygyrchedd a gwelliannau technegol

Mae DLUHC yn ymroddedig i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2).

Mae’r gwasanaeth hwn yn Beta cyhoeddus ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn destun archwiliad hygyrchedd llawn yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, ac roedd yn cydymffurfio’n llawn â safon AA WCAG 2.2.

Paratoi’r datganiad

Lluniwyd y datganiad hwn ar 18 Ebrill 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 18 Ebrill 2024. Cynhaliwyd y prawf gan dîm profion defnyddwyr a thechnegol y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Defnyddiodd tîm y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ddau ddull profi. Y cyntaf oedd archwiliad technegol â llaw gan ddefnyddio adnoddau awtomataidd. Roedd yr ail ddull yn cynnwys tîm penodedig o brofwyr a oedd yn ddefnyddwyr ag anableddau gwahanol a gafodd eu cynorthwyo gan amrywiaeth o dechnegau addasol.

Yna, cafodd canfyddiadau’r ddau dîm profi eu cyfuno er mwyn rhoi adborth i ni ar statws hygyrchedd y gwasanaeth.